ff.
s.
s.
Pobol y We
Llwyn
Lôn Dryll
Llanfairpwll
Ynys Môn 
LL61 5PQ
01248 712614
07743 389652
07521 761498
Mae Pobol Y We yn ‘sefydliad rhithwir’ mewn ystyr nad ydym yn gweithredu o un cyfeiriad sefydlog. Mae aelodau o’n tîm ynghŷd â'n aelodau cysylltiol  i gyd yn gweithio mewn swyddfeydd yn eu cartrefi, a hynny dim ond ychydig filltiroedd o’i gilydd.

Mae’r dull yma o weithio yn ein galluogi i fod yn hyblyg, ac wrth gadw’r gorbenion yn isel, gallwn gynnig prisiau cystadleuol.

Mae pob aelod o'n tîm wedi gweithio yn y modd yma dros gyfnod o flynyddoedd.

Byddwn yn falch o gydweithio yn glos â chi i gynhyrchu eich gwefan newydd, a hynny’n ateb eich holl ofynion. Beth am
gysylltu â ni rwan.
SUT YDYM YN GWEITHREDU
Gwasanaeth lleol, cyfeillgar: Rydym yn darparu gwasaneth dylunio gwefan a TG o ansawdd uchel ar gyfer busnesau bychain, elusennau a grwpiau cymuned yng Ngogledd Orllewin Cymru.  Wrth ganolbwyntio ein busnes o fewn ardal leol, sef Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy, rydym yn gallu darparu gwasanaeth personol gyda chefnogaeth gwasanaeth ôl-werthu gwych.  Mae pob aelod o'n tîm yn siaraad Cymraeg yn rhugl.
Hyfforddiant: Mae’r rhan helaeth o’n cleientiaid heb ddefnyddio cyfrifiadur nac ychwaith wedi gyrru e-bost o’r blaen cyn dod atom ni am hyfforddiant, ac o’r herwydd roeddynt yn colli allan ar y manteision o gael gwefan. Os ydych chi yn yr un sefyllfa, peidiwch â phoeni. Gallwn ddarparu’r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch a rhoi cymorth pob cam o’r ffordd i chi.
Gwasanaeth ôl-werthu :  Rydym yn mynd ‘i’r eithaf’ er mwyn darparu gwasanaeth ôl-werthu i gefnogi’n cleientiaid. Mae modd i chi ein ffonio, neu yrru e-bost i ni unrhyw amser, neu mi fyddwn yn falch i ymweld â chi os bydd angen cymorth ymarferol.
Ystod Eang o Wasanaethau: Mae ein gwasanaeth yn ymestyn ymhellach na darparu gwefan. Er enghraifft, rydym yn rhoi sylw cyflawn i’ch delwedd neu’ i’ch brand, sydd lawn mor bwysig i fusnesau bychain neu i sefydliadau micro fel y mae i fusnesau mwy. Dylai steil a chynllun eich papur ysgrifennu ynghyd â’r testun fod yn gyson gyda’ch gwefan, ac mi allwn ni drefnu hyn i chi hefyd.
Cymorth i Fusnesau:  Yn ogystal â chynllunio eich gwefan gallwn hefyd eich cynghori ym mhob agwedd o fod yn berchen eich gwefan, gan gynnwys Marchnata ar y We; Hyrwyddo; Marchnata drwy E-bost;  Safle Peiriant Chwilio; gwerthu ar e-Bay yn ogystal â chael Siop Ar-lein eich hunan.
Pobol y We        The Web People 
Amdanom Ni                                                         
PAM DEWIS POBOL Y WE?                                                                
xxx