ff.
s.
s.
Pobol y We
Llwyn
Lôn Dryll
Llanfairpwll
Ynys Môn 
LL61 5PQ
01248 712614
07743 389652
07521 761498
Tystebau
Testimonial - Margaret Roberts, Adfer and Associates
Adfer & Associates
"O'r diwrnod cyntaf fuodd Pobol y We yn gymorth i mi symud fy musnes o siop leol yng Nghaernarfon. O'r dechrau, roeddwn i wrth fy modd gyda'r asesiad o'm musnes a'r cyngor sut i symud ymlaen.  Wedi gorffen fy ngwefan, teimlaf ei bod yn un broffesiynol iawn."
Margaret Roberts
Testimonial - Carys Davies - So Chic, Bangor.
So Chic,  Bangor.
"Mae Pobol y We yn gwmni proffesiynnol sydd yn gallu ymateb i ofynion creadigol a thechnegol yr unigolyn.  Mae'r gwaith maent yn gynhyrchu o'r safon uchaf bob amser.  Mae'n bleser cydweithio gydag Eirian ac Eleri oherwydd eu brwdfrydedd a'u ymroddiad."
Carys Davies
Geiriau Gwyn, Gwasanaethau Cyfieithu,Translation Services
Geiriau Gwyn
"Hoffwn ddiolch i Pobol y We am eu gwaith gyda'r wefan. 'Roeddynt pob tro yn barod i wrando, rhoi cyngor, ac yn bwysicach na dim gyda amynedd amhrisiadwy."
Gwynfor Owen
Môn ar Lwy - Luxury dairy ice cream
Môn ar Lwy
"Hoffwn ddiolch o waelod calon i Pobol y We am eu gwaith diflino yn creu safle trawiadol dwyieithog i Môn ar Lwy. Derbyniwyd gwasanaeth personol ac amhrisiadwy ganddynt. Diolch genod."
Helen Holland
A.W. Owen, Joinery & Building Contractors
A.W. Owen
Rwyf wedi canfod Pobol y We yn broffesiynol iawn, drwy siarad a chynllunio fy ngwefan drwodd gyda mi.  Mae pobl hefyd wedi sylwi pa mor glir a hawdd i’w defnyddio mae fy ngwefan. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.
Andy Owen
Joinery & Building Contractor.
Testimonial - Geraint Hughes, Menter a Busnes
Madryn Cyf
Menter a Busnes              -            Madryn Cyf.
"Mae'n bleser gweithio gyda Eleri ac Eirian o Pobol y We.  Rwy'n gwybod y caf wasanaeth dibynadwy o'r safon uchaf, ac os bydd problem, mae un o'r ddwy wastad yno i gynnig cymorth cyfeillgar - rywbeth na gewch chi gyda cwmni mawr amhersonol. Ni fuaswn yn meddwl ddwy waith cyn eu hargymell i fusnesau eraill."     Geraint Hughes
Testimonial - Dr. Lowri Hughes, Canolfan Bedwyr
Canolfan Bedwyr  Prifysgol Bangor University

Bu Eleri yn gweithio gyda ni ym Mhrifysgol Bangor ar brosiect (a ariannwyd gan Fwrdd yr Iaith) i godi hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg wrth weithio ar y cyfrifiadur. Roedd agwedd Eleri at y gwaith yn gadarnhaol iawn bob amser ac roedd tîm y prosiect a’r staff a fu’n derbyn cymorth ganddi wedi mwynhau gweithio gyda hi. Roedd Eleri yn gwrando ar ein gofynion ac roedd ei brwdfrydedd at y gwaith yn gyfraniad pwysig i lwyddiant y prosiect.
Dr Lowri Hughes
Agoriad Cyf, Bangor
Agoriad Cyf.
"Darparwyd gwasanaeth hynod o broffesiynol gan Pobol y We . Cydwybodol ac yn ddibynadwy dros ben."
Arthur Beechey
TYSTEBAU
Rydym yn gwmni lleol sy'n cynnig gwasanaeth personol dwyieithog.